{"id":3323,"date":"2026-08-20T08:16:41","date_gmt":"2026-08-20T07:16:41","guid":{"rendered":"https:\/\/deafhealth.wales\/?p=3323"},"modified":"2026-08-21T11:21:46","modified_gmt":"2026-08-21T10:21:46","slug":"deaf-accessibility-in-the-outdoors-breaking-barriers","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/deaf-accessibility-in-the-outdoors-breaking-barriers\/","title":{"rendered":"Hygyrchedd i Bobl Fyddar yn yr Awyr Agored: Chwalu Rhwystrau"},"content":{"rendered":"<p class=\"wp-block-paragraph\">Nod y ganolfan Adnoddau Naturiol ym Mhrosiect Iechyd Byddar Cymru yw pontio\u2019r bwlch rhwng yr amgylchedd naturiol a hygyrchedd i bobl fyddar drwy ymgysylltu \u00e2 chymunedau a chreu gwybodaeth hygyrch gyda rhanddeiliaid. Ar 21<sup>st<\/sup>&nbsp;Gorffennaf 2026, diolch i\u2019r Gronfa Cyflymu Effaith ym Mhrifysgol Bangor, arweiniodd Iechyd Byddar Cymru dri digwyddiad ar gyfer y sector awyr agored ar y cyd \u00e2 Chanolfan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog a Chanolfan Addysg Awyr Agored Argoed Llwyd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn cynyddu effaith a chyrhaeddiad y digwyddiadau, roedd y diwrnod yn cynnwys dwy elfen. Roedd y bore\u2019n canolbwyntio ar weithdy Ymwybyddiaeth o Fyddardod ar gyfer y Sector Awyr Agored wedi\u2019i anelu tuag at randdeiliaid yn y sector awyr agored, ac roedd y prynhawn yn canolbwyntio ar weithgareddau awyr agored tywysedig Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer y gymuned Fyddar.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynhaliwyd digwyddiad y bore yng Nghanolfan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog, a gwahoddwyd ystod amrywiol o randdeiliaid yn y sector awyr agored, 19 o bobl, yn cynnwys cynrychiolwyr o\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr Urdd, y Bartneriaeth Awyr Agored, RNIB, Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru a nifer o ddarparwyr gweithgareddau awyr agored lleol. Roedd y gweithdy yn cael ei arwain gan aelodau o D\u00eem Iechyd Byddar Cymru: Paul Redfern, Andrew Tobin a Libby Steele, ac roedd yn cael ei gefnogi gan ddau Ddehonglydd BSL-Saesneg. Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i ddysgu yngl\u0177n \u00e2 sut i fod yn fwy cynhwysol a hygyrch i bobl fyddar a thrwm eu clyw yn eu gwasanaethau a\u2019u seilwaith. Cyn ac ar \u00f4l y gweithdy, fe wnaethon ni ofyn cwestiynau i\u2019r rhai a oedd yn bresennol er mwyn mesur eu hyder wrth gyfathrebu gyda phobl Fyddar a thrwm eu clyw a pha mor hyderus maen nhw\u2019n teimlo wrth gynnwys pobl Fyddar neu drwm eu clyw yn eu sesiynau. Cyn y gweithdy, rhoddodd 74% o\u2019r ymatebwyr sg\u00f4r o 1 neu 2 allan o 5 ar gyfer eu hyder \u2013 lle mae 5 yn lefelau hyder uchel \u2013 ac ar \u00f4l y sesiwn, rhoddodd 78% o\u2019r ymatebwyr sg\u00f4r o 4 neu 5 allan o 5 ar gyfer eu hyder, gan ddangos bod y rhan fwyaf o\u2019r ymatebwyr yn teimlo\u2019n fwy hyderus i gyfathrebu \u00e2 phobl Fyddar neu drwm eu clyw. Pan holwyd hwy yngl\u0177n \u00e2 hyder wrth gynnwys person Byddar neu drwm ei glyw yn eu sesiwn, rhoddodd 70% o\u2019r rhai a oedd yn bresennol sg\u00f4r gychwynnol o 3 neu is ar gyfer eu hyder, ond ar \u00f4l y gweithdy, rhoddodd 88% o\u2019r rhai a oedd yn bresennol sg\u00f4r o 4 neu uwch ar gyfer eu hyder. Rhoddodd un o\u2019r rhai a oedd yn bresennol yr adborth a ganlyn am y sesiwn:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRwy\u2019n teimlo bod y sesiwn yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn er mwyn codi ymwybyddiaeth o\u2019r rhwystrau y gallai cymunedau byddar\/trwm eu clyw eu hwynebu wrth gymryd rhan yn y math o ddigwyddiadau rydyn ni\u2019n eu cynnal, ac rwy\u2019n teimlo fy mod yn dod o\u2019r sesiwn \u00e2 llawer gwell dealltwriaeth a llawer i feddwl amdano o ran sut y gallwn ni wella\u2019r ffordd rydyn ni\u2019n darparu\u2019r gwasanaethau yma.\u201d<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l egwyl fer i ginio, dechreuwyd \u00e2 dau Weithgaredd Awyr Agored Tywysedig BSL gydag aelodau o\u2019r gymuned Fyddar. Roedd dau weithgaredd yn cael eu cynnig i\u2019r rhai a oedd yn bresennol, taith gerdded hamddenol i Dwyn y Gaer (Bryngaer o\u2019r Oes Haearn) neu heic o amgylch Craig Cerrig Gleisiad, ac roedd y ddwy daith yn cael eu harwain gan hyfforddwyr awyr agored cymwysedig \u00e2 chefnogaeth dehonglwyr BSL-Saesneg. Bwriedid i\u2019r rhain fod yn grwpiau llai. Cymerodd saith o bobl ran yn yr heic a chymerodd chwech o bobl ran yn y daith gerdded hamddenol. Roedd y tywydd yn braf ac yn ddelfrydol ar gyfer cerdded; roedd y ddau weithgaredd yn cynnwys cydbwysedd o gerdded\/heicio egn\u00efol ac oedi i drafod planhigion a chreaduriaid diddorol. Roedd pawb wedi mwynhau ei hun ac wedi dysgu rhywbeth newydd! Ar \u00f4l y daith gerdded, dywedodd y cyfranogwyr:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cRoedd arweinydd y daith a thywysydd y parc cenedlaethol yn wybodus iawn am y parc ac yn addasu i anghenion y gr\u0175p - cyfathrebu, seibiant a chyfyngiadau amser.\u201d<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yn bwysig iawn bod t\u00eem Iechyd Byddar Cymru yn sicrhau bod y gweithdy rhanddeiliaid yn effeithiol, yn fuddiol ac yn rhoi rhywbeth i\u2019r rhai a oedd yn bresennol feddwl amdano, gan ganolbwyntio ar feithrin hyder a datblygu ymwybyddiaeth ar gyfer yr adegau pan fyddant yn ymwneud \u00e2 phobl Fyddar neu drwm eu clyw. Ar gyfer y gweithgareddau tywysedig BSL, roedd pwyslais mawr ar sicrhau bod y rhai a oedd yn bresennol yn cael dewis o weithgareddau gan ddibynnu ar eu lefel ffitrwydd a beth maen nhw\u2019n hoffi ei wneud.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r model hwn o weithdai ar gyfer rhanddeiliaid yn cael ei ddilyn gan ddigwyddiadau cymunedol penodedig yn caniat\u00e1u i brosiect Iechyd Byddar Cymru greu effaith a dylanwadu ar y sector awyr agored, a chreu cyfleoedd hygyrch a chynhwysol i\u2019r gymuned Fyddar.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn dilyn llwyddiant y digwyddiadau, a\u2019r adborth cadarnhaol, rydym yn bwriadu cynnal y gweithdy rhanddeiliaid Ymwybyddiaeth o Fyddardod ar gyfer y Sector Awyr Agored ym mhob un o\u2019r tri pharc cenedlaethol a darparu rhagor o Weithgareddau Awyr Agored Tywysedig BSL ledled Cymru, felly cadwch lygad am fwy o wybodaeth!&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Thanks to the Impact Acceleration Fund at Bangor University, on 21st\u00a0July 2026, Deaf Health Wales led three outdoor sector events in conjunction with Bannau Brycheiniog Visitor Centre and Argoed Llwyd Outdoor Education Centre.\u00a0<\/p>","protected":false},"author":7,"featured_media":3328,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"content-type":"","iawp_total_views":5,"footnotes":""},"categories":[39],"tags":[],"class_list":["post-3323","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-events"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3323","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3323"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3323\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3348,"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3323\/revisions\/3348"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3328"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3323"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3323"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/deafhealth.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3323"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}