Iechyd Meddwl

BSL

Beth yw'r hyb Iechyd Meddwl?

Mae'r Ganolfan Iechyd Meddwl yn cael ei harwain gan Dr Sara Rhys-Jones (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) a Dr Julia Terry (Prifysgol Abertawe). Mae'r ganolfan hon yn hyrwyddo iechyd meddwl da ac yn ceisio gwella mynediad pobl fyddar at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru drwy ganfod bylchau mewn gwasanaethau, casglu data, a grymuso cymunedau drwy ddarparu gwell prosesau atgyfeirio a gwell adnoddau, a drwy ymgysylltu'n well â rhanddeiliaid.

Cymorth Hygyrch

Rydym yn creu adnoddau iechyd meddwl ar ffurf BSL er mwyn sicrhau bod pobl Fyddar yn gallu cael gafael ar y cymorth angenrheidiol. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar chwalu rhwystrau gofal, ac ar wneud gwasanaethau ledled Cymru yn fwy cynhwysol ac ymatebol.

Meithrin Cadernid

Mae ein canolfan yn grymuso unigolion a chymunedau Byddar drwy hyrwyddo cadernid, cysylltiad, a chymorth gan gyfoedion. Rydym yn taflu goleuni ar faterion hollbwysig fel ynysigrwydd cymdeithasol, risg o hunanladdiad a gwahaniaethu, ac yn gweithio i gryfhau llesiant cymunedol. 

Cau'r Bylchau

Drwy gasglu data a thynnu sylw at broblemau parhaus, rydym yn dangos ble mae'r cymorth yn ddiffygiol. O hyn yn helpu llunwyr polisïau, gweithwyr proffesiynol a chymunedau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac i ddatblygu atebion, ar sail tystiolaeth, sydd wir yn diwallu anghenion pobl Fyddar.

Cefnogi Pob Cam

Rydym yn dod o hyd i ffyrdd ymarferol o wella amgylcheddau ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion byddar. O fyd addysg i iechyd meddwl, rydym yn hyrwyddo cymorth hygyrch sy'n hybu cynhwysiant a ffynnu ym mhob cam mewn bywyd.

Beth rydym ni'n ei wneud?

Hyrwyddo Bywyd ACTif

Cwrs BSL di-dâl sy'n cynnig adnoddau ymarferol i gefnogi llesiant emosiynol a meddyliol yng Nghymru.

Sesiynau ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl

Sesiynau hygyrch ledled Cymru i roi hwb i ymwybyddiaeth, cymorth cynnar, a gwybodaeth am gymorth gan gyfoedion.

Mynediad at elusen SignHealth

Hyrwyddo adnoddau BSL ar orbryder, iselder a thrawma er mwyn addysgu cymunedau byddar.

Gwrando ar Gymru

Cydweithio â phobl fyddar er mwyn deall pa gymorth fyddai o fudd gwirioneddol i'w hiechyd meddwl.

Mae gormod o bobl fyddar yng Nghymru yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl ac yn methu cael cymorth ar ffurf BSL. Rydym ni am newid hynny.

Ffeithiau a Ffigurau

  • Mae pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl na phobl sy’n gallu clywed

  • Mae 30–60% o unigolion byddar yn cael problemau iechyd meddwl yn ystod eu hoes, wrth gymharu â’u cyfoedion sy'n gallu clywed

  • Mae diffyg cymorth iechyd meddwl ar ffurf BSL yn ffactor allweddol sy’n rhwystro pobl Fyddar rhag cael ymyrraeth gynnar

  • Bydd tua 40% o boblogaeth fyddar Cymru – dros 575,000 o bobl – yn wynebu problemau iechyd meddwl

  • Mae 36% o bobl fyddar wedi profi gorbryder; mewn astudiaeth ddiweddar, dywedodd 16% eu bod wedi profi iselder

  • Mae 7,200 o ddefnyddwyr BSL yn byw yng Nghymru, sy'n pwysleisio'r angen hollbwysig am wasanaethau iechyd meddwl hygyrch

Cwestiynau cyffredin

Pa mor bwysig yw'r ganolfan hon?

Mae'r ganolfan hon yn mynd i'r afael â bylchau difrifol mewn gofal iechyd meddwl i bobl fyddar, a'i nod yw siapio gwasanaethau'r dyfodol drwy gasglu tystiolaeth, rhannu straeon, a thynnu sylw at anghenion y gymuned.

Mae'r ganolfan hon yn hollbwysig i'n helpu i awgrymu atebion a fydd yn rhoi gwell profiad i gleifion byddar sy'n defnyddio BSL. Bydd yn ein galluogi i gasglu, cofnodi a dadansoddi data i'n helpu i adrodd ar faterion a thueddiadau, a'n helpu i argymell newidiadau cadarnhaol.

Pa fath o gynlluniau sydd ar y gweill?

Rydym yn hyrwyddo adnoddau fel Bywyd ACTif, yn casglu straeon gan bobl fyddar, ac yn cynnal sioeau teithiol er mwyn dysgu beth y mae angen ei newid.

Pam mae angen gwneud hyn?

Mae pobl Fyddar yn cael eu hanwybyddu'n rhy aml wrth gynllunio gofal iechyd meddwl. Mae'r ganolfan hon yn helpu i newid hynny drwy roi llais i bobl fyddar a thaflu goleuni ar faterion hollbwysig.

Mae Llywodraeth Cymru a'n byrddau iechyd bob amser yn gofyn am gael gweld tystiolaeth gadarn i gefnogi galwadau am newidiadau i wella profiad pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yng Nghymru. Mae'n bwysig cynnwys cleifion byddar, dehonglwyr ac eraill wrth gasglu'r corff hwn o dystiolaeth.

Rydw i eisiau helpu – beth alla i ei wneud?

Gallwch rannu eich stori, cymryd rhan mewn sioeau teithiol, neu ledaenu'r gair. Anfonwch e-bost i ddechrau arni.

Byddem wrth ein bodd yn cael eich help – gallai hynny olygu rhannu eich profiadau, neu ein helpu i ddod â phobl fyddar ac eraill at ei gilydd yn eich ardal chi. Byddem yn fwy na pharod i drafod hyn yn anffurfiol â chi.