Gyfraith a Hawliau
Dynol
BSL
Beth yw canolfan y Gyfraith a Hawliau Dynol?
Mae canolfan y Gyfraith a Hawliau Dynol, o dan arweiniad Dr Rob Wilks (UWE Bristol) a Ceri Harris (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr), yn archwilio sut mae fframweithiau cyfreithiol yn effeithio ar fywyd pobl fyddar yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd-destun gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n canolbwyntio ar adolygu deddfau a pholisïau, gwella profiad pobl fyddar o systemau cwyno, a defnyddio data i dynnu sylw at broblemau ac atebion. Mae ein nod yn syml ond yn uchelgeisiol: gwireddu hawliau'r gymuned fyddar yng Nghymru.
Defnyddio'r gyfraith i greu newid
Adolygu amddiffyniadau cyfreithiol a pholisïau iechyd er mwyn gwybod beth sydd ar goll, a phwyso am weithredu.
Trwsio systemau cwynion
Gwireddu hawliau
Adolygu data cwynion y GIG
Beth rydym ni'n ei wneud?
Adolygu'r gyfraith
Dod o hyd i fylchau yn y gyfraith sy’n ceisio gwarchod hawliau pobl fyddar
Gwella prosesau cwyno
Ailgynllunio gweithdrefnau cwyno fel ei bod yn hawdd i bobl fyddar eu defnyddio
Adolygu data cwynion
Archwilio cofnodion cwynion byrddau iechyd y GIG i weld ble mae cleifion byddar wedi cael cam, a ble mae angen gwneud newidiadau
Casglu profiadau uniongyrchol
Rydym yn casglu straeon go iawn gan bobl fyddar am eu profiadau o ddefnyddio systemau cwyno er mwyn ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, a sut mae datrys hynny
Mae pobl fyddar yng Nghymru yn dal i wynebu rhwystrau rhag cwyno am wasanaethau iechyd a gofal. Dydy llawer o bobl fyddar ddim yn gwybod eu hawliau nac yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, neu maen nhw’n rhoi'r ffidil yn y to yn llwyr. Nid o ddewis maen nhw’n cadw’n dawel – systemau sy’n dal yn ddiffygiol sy’n gwneud iddyn nhw gadw’n dawel.
Ffeithiau a Ffigurau
-
Mae rhwng 4,000 a 69,000 o bobl yn defnyddio BSL yng Nghymru.
-
Mae'r gyfraith yn aml yn anwybyddu anghenion y gymuned fyddar yng Nghymru.
-
Nid yw deddfau fel Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn sôn am bobl fyddar na BSL.
-
Mae darpariaeth byrddau iechyd o ddehonglwyr BSL-Cymraeg a Saesneg yn anghyson.
-
Dydy llawer o bobl fyddar ddim yn gwybod sut i gwyno, neu a ydyn nhw’n cael cwyno.
-
Dydy'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd ddim yn adrodd yn ôl ar gwynion sy'n ymwneud yn benodol â byddardod.
Ydych chi wedi cael trafferth gwneud cwyn, neu hoffech chi rannu eich profiad?
Byddem yn falch iawn o glywed gennych chi. Gallwch gysylltu drwy ......... Gall eich straeon a'ch gwybodaeth chi helpu i sbarduno newid!
Cwestiynau cyffredin
Mae pobl fyddar yng Nghymru yn dal i wynebu rhwystrau difrifol wrth ddefnyddio systemau iechyd a chyfreithiol. Pwrpas y ganolfan hon yw gwireddu hawliau drwy wella mynediad, trwsio systemau sydd wedi torri, a sicrhau bod lleisiau pobl fyddar yn cael eu clywed ac yn arwain at weithredu.
Rydym yn adolygu deddfau cydraddoldeb ac iechyd, gan weithio gyda phartneriaid fel Llais a Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (GCC) i wella systemau cwyno, dadansoddi data ar gwynion go iawn, a chreu adnoddau sy'n helpu pobl fyddar i ddeall a defnyddio eu hawliau.
Dydy llawer o bobl fyddar ddim yn gwybod sut mae cwyno, neu a ydyn nhw'n cael cwyno. Pan fydd systemau'n anhygyrch neu'n aneglur, bydd pobl yn rhoi'r ffidil yn y to. Nod y ganolfan hon yw newid hynny, er mwyn i bobl fyddar allu herio triniaeth wael a siapio gwasanaethau gwell.
Rhannwch eich profiad o ddefnyddio systemau cwyno, helpwch ni i brofi adnoddau newydd, neu cysylltwch â ni i gefnogi'r prosiect. Gallwch anfon e-bost atom yn DHWLegal@bangor.ac.uk. Byddem yn falch iawn o glywed gennych chi.