Gwasanaethau Dehongli

BSL

Beth yw’r ganolfan Gwasanaethau Dehongli?

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Dehongli yn cael ei harwain gan Cath Booth, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Cymru i Bobl Fyddar, a Martin Griffiths, Rheolwr BDA Cymru. Bydd y ganolfan yn edrych ar wasanaethau dehongli yng Nghymru gyda'r bwriad o asesu'r adnoddau dehongli sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru, ac asesu anghenion y dyfodol. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gan Gymru fwy o ddehonglwyr ar gyfer yr holl feysydd angen – sy’n amrywio o apwyntiadau meddygol i'r celfyddydau a byd y theatr. Byddwn yn ymdrin â dehongli drwy gyfnewid iaith (relay interpreting), dehonglwyr BSL/Cymraeg a Saesneg, Iaith Arwyddion Rhyngwladol (IS), Gwasanaethau Cyfnewid Iaith ar ffurf Fideo (VRS), Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu ac ati.

Dehongli yng Nghymru

Ymchwilio i’r adnoddau dehongli sydd ar gael ar hyn o bryd ledled Cymru ac adrodd yn ôl ar hynny; a chanfod tueddiadau a’r capasiti a fydd ar gael yn y dyfodol. Wyneb yn wyneb, proffilio gwasanaethau dehongli o bell a chyfnewid iaith ar ffurf fideo. Ymchwilio i brofiadau dehonglwyr yng Nghymru gan gynnwys cyfleoedd datblygu, a dal gafael ar fwy o weithwyr proffesiynol medrus.

Llwybrau i Ddehongli

Archwilio'r llwybrau at ddehongli sydd ar gael yng Nghymru/yn y DU. Canfod y rhwystrau rhag bod yn ddehonglydd, a chynnig atebion. Ymchwilio i bosibiliadau dysgu drwy ‘lwybr carlam’ mewn cymhariaeth â llwybrau traddodiadol. Ymchwilio i ddulliau o hyrwyddo dehongli fel gyrfa ac arbenigedd posibl.

Profiad Cleifion

Canfod themâu ym mhrofiadau blaenorol a chyfredol cleifion mewn lleoliadau lle mae dehonglwyr ar gael, a lle nad oes dehonglwyr ar gael. Bydd yr elfen hon yn cynnwys y ffordd mae gwasanaethau iechyd yn trefnu dehonglwyr, bodlonrwydd ac adborth cleifion. Ystyried sut gall cleifion Byddar roi adborth cyfrinachol a hygyrch ar ddehonglwyr. 

Bygythiadau a Chyfleoedd

Edrych ar y defnydd cynyddol o dechnoleg er mwyn gallu darparu gwasanaethau dehongli o bell a chyfnewid iaith ar ffurf fideo. Ymchwilio i wasanaethau cyfnewid iaith ar ffurf fideo, ac adrodd yn ôl ar y problemau a'r manteision. Archwilio a ddylid rheoleiddio gwasanaethau cyfnewid iaith ar ffurf fideo. Archwilio’r bygythiadau a'r cyfleoedd i’r ddarpariaeth dehongli yn y dyfodol a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial.

Beth rydym ni'n ei wneud?

Profiad y Claf

Gyda BDA Cymru, rydym wedi bod yn archwilio profiadau cleifion ac yn casglu enwau pobl fyddar a allai gyfrannu at weithgareddau ymchwil

Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (GCC)

Rydym wedi ymuno â Bwrdd Cynghori GCC i roi adborth ar faterion cleifion. Rydym yn gweithio gyda BDA Cymru gyda’r bwriad o gynnal arolwg sy'n cynnwys GCC ac asiantaethau eraill

DPP Dehonglwyr

Rydym yn gweithio gyda Chyngor Cymru i Bobl Fyddar a Dehonglwyr BSL-Cymraeg a Saesneg i archwilio cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a chyfleoedd i ddal gafael ar ddehonglwyr

Llwybrau

Rydym yn gweithio gyda Chyngor Cymru i Bobl Fyddar i ystyried ysgogi llwybrau yng Nghymru.

Does dim digon o ddehonglwyr BSL yng Nghymru, ac mae'n aml yn anodd cael gafael ar un pan fydd angen un arnoch, yn enwedig ar gyfer apwyntiadau meddyg teulu neu yn yr ysbyty. Rydym ni am newid hynny.

Ffeithiau a Ffigurau

  • Ar hyn o bryd mae gan Gymru 54 Dehonglydd Iaith Arwyddion Cofrestredig.

  • 3.5% o Ddehonglwyr Iaith Arwyddion Cofrestredig y DU sydd gan Gymru.

  • Ar hyn o bryd nid yw system addysg Cymru yn cynnig llwybr clir at ddehongli.

  • Mae GCC yn darparu gwasanaethau dehongli a chyfieithu mewn tua 140 o ieithoedd; BSL yw'r drydedd iaith y gofynnir amdani fwyaf.

  • Yn ôl GCC, ei gyfradd cyflawni yw tua 98%.

  • Mae gan y DU bedwar prif Wasanaeth Cyfnewid Iaith ar ffurf Fideo: SignLive, SignVideo, SignWow ac InterpretersLive; does dim un wedi’u lleoli yng Nghymru.

Cwestiynau cyffredin

Pa mor bwysig yw'r ganolfan hon?

Mae'r ganolfan hon yn hollbwysig i'n helpu i awgrymu atebion a fydd yn rhoi gwell profiad i gleifion byddar sy'n defnyddio BSL. Bydd yn ein galluogi i gasglu, cofnodi a dadansoddi data i'n helpu i adrodd ar faterion a thueddiadau, a'n helpu i argymell newidiadau cadarnhaol.

Pa fath o gynlluniau sydd ar y gweill?

Rydym yn bwriadu cynnal ymchwil gyda chleifion byddar sy'n defnyddio BSL er mwyn cael gwybodaeth allweddol am eu profiad fel cleifion. 

Byddwn yn gweithio gyda'r dehonglwyr cofrestredig presennol, dehonglwyr dan hyfforddiant, gweithwyr cymorth cyfathrebu a dysgwyr BSL i edrych ar y daith tuag at ddod yn ddehonglydd.

Byddwn yn gweithio gyda darparwyr VRS, asiantau cyfieithu, byrddau iechyd a rhanddeiliaid eraill perthnasol i roi gwybodaeth am ein gwaith.

Pam mae angen gwneud hyn?

Mae Llywodraeth Cymru a'n byrddau iechyd bob amser yn gofyn am gael gweld tystiolaeth gadarn i gefnogi galwadau am newidiadau i wella profiad pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yng Nghymru. Mae'n bwysig cynnwys cleifion byddar, dehonglwyr ac eraill wrth gasglu'r corff hwn o dystiolaeth.

Rydw i eisiau helpu – beth alla i ei wneud?

Byddem wrth ein bodd yn cael eich help – gallai hynny olygu rhannu eich profiadau, neu ein helpu i ddod â phobl fyddar ac eraill at ei gilydd yn eich ardal chi. Byddem yn fwy na pharod i drafod hyn yn anffurfiol â chi.