Ymuno â Chymuned Cylch Iechyd Byddar Cymru

BSL

Gofod diogel a chefnogol i’r gymuned fyddar

Mae’r Gymuned Cylch yn ofod ar-lein pwrpasol lle y gall pobl fyddar, gweithwyr gofal iechyd, ymchwilwyr ac eiriolwyr gysylltu, rhannu profiadau a gweithio gyda’i gilydd i wella gofal iechyd a lles pobl fyddar.

Join a network driving deaf healthcare accessibility and inclusion.

Beth am ymuno â rhwydwaith sy’n gweithio i wella hygyrchedd a chynhwysiant gofal iechyd i bobl fyddar.

Access exclusive resources, workshops, and events for the deaf community.

Gallwch gael mynediad at adnoddau, gweithdai a digwyddiadau neilltuol i bobl fyddar.

Connect, discuss, and find support with like-minded individuals.

Gallwch gysylltu, trafod a dod o hyd i gymorth gydag unigolion o’r un anian.

Collaborate on advocacy and projects to improve deaf-friendly services.

Gallwch gydweithredu ar eiriolaeth a phrosiectau i wella gwasanaethau byddar-gyfeillgar.

Pam Ymuno â’r Gymuned Cylch?

Beth am gysylltu â’r gymuned fyddar

Gallwch rannu profiadau, derbyn cyngor a chefnogi eich gilydd.

Cynnwys ac adnoddau neilltuol

Gallwch gael mynediad at arweinlyfrau iechyd byddar-gyfeillgar, sesiynau Holi ac Ateb byw, a thrafodaethau ag arbenigwyr.

Trafodaethau BSL-gyfeillgar

Beth am ymuno â sgyrsiau fideo BSL a fforymau negeseuon testun.

Rhwydweithio Proffesiynol a Chyd-Rwydweithio

Cyfarfod â phroffesiynolion, ymchwilwyr, a chydymaith clustsyg sy'n gweithio tuag at gydraddoldeb gofal iechyd.

Beth Sydd y Tu Mewn?

  • Fforymau Trafod

    Cysylltu ag unigolion a gweithwyr proffesiynol byddar i drafod pethau fel iechyd meddwl, dehongli a hawliau byddar.

  • Gweithdai a Digwyddiadau Byw

    Mynychu sesiynau hyfforddiant, paneli Holi ac Ateb arbenigol a chyfarfodydd rhithiol.

  • Adnoddau Neilltuol

    Fideos, erthyglau a phecynnau BSL wedi eu dylunio ar gyfer pobl fyddar.

  • Ymgyrchu ac Eiriolaeth

    Cymryd rhan mewn grwpiau gweithredu i wella gwasanaethau byddar-gyfeillgar.

  • Grwpiau Preifat a Chyhoeddus

    Dod o hyd i ofod pwrpasol ar gyfer gwahanol ddiddordebau (e.e. gwasanaethau iechyd meddwl, cyflogaeth a dehongli)

Ymuno â’r Gymuned Cylch

P’un ai’n unigolyn byddar yn chwilio am gymorth, gweithiwr gofal iechyd yn gweithio i wella hygyrchedd, ymchwilydd neu luniwr polisi’n cyfrannu at raglenni iechyd byddar, neu rywun sy’n teimlo’n gryf am gynhwysiant – y Gymuned Cylch yw’r lle i chi.

Ymunwch â ni am adnoddau, trafodaeth a chyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a hygyrchedd pobl fyddar.

I ymuno â’r Gymuned Cylch, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru fer. Ar ôl ei chyflwyno, bydd un o weinyddwyr y gymuned yn adolygu eich cais a chymeradwyo eich aelodaeth. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein haelodau i gyd yn cytuno â’n cenhadaeth a bod y gymuned yn aros yn ddiogel, cynhwysol a bwriadus.