Panel Ymgynghorol Profiad Bywyd (LEAP)

BSL

Beth yw LEAP?

Grŵp ar Panel Ymgynghorol Profiad Bywyd (LEAPsy'n cynnwys unigolion a chanddynt brofiad uniongyrchol o faterion sy’n ymwneud ag iechyd a lles pobl fyddar yng Nghymru.  

Eu tasg a'u rôl nhw fel rhan o broject Iechyd Pobl Fyddar yng Nghymru yw cynnig mewnwelediad, adborth ac argymhellion i’r tîm er mwyn helpu i sicrhau bod y camau gweithredu, y penderfyniadau, y dulliau, y gweithgareddau ymchwil, y strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu, yr adborth, a’r ymyriadau, yr allbynnau a’r argymhellion arfaethedig yn rhai gwybodus sydd wedi eu llunio a’u harwain gan brofiad bywyd go iawn. 

Cyfrifoldebau

Ymhlith cyfrifoldebau’rPanel Profiad Bywyd mae

  • Darparu sianel i rannu profiadau personol a phrofiadau pobl eraill gyda thîm y project Iechyd Pobl Fyddar yng Nghymru, gan dynnu sylw at heriau a rhwystrau yn y byd go iawn sy'n effeithio ar gymunedau byddar yng Nghymru.

  • Ymgynghori ynghylch polisïau, ymyriadau a gweithgareddau’r project Iechyd Pobl Fyddar yng Nghymru i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cymunedau byddar yng Nghymru.

  • Helpu'r tîm i ddeall beth sy'n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, a sut y gellir gwella ymdrechion a gweithgareddau'r project.

  • Darparu adborth oddi wrth gymunedau byddar ledled Cymru ynghylch gweithredoedd, ymyriadau, allbynnau ac ymgysylltu’r project.

  • Helpu’r tîm i ddeall yn well beth yw effaith ddynol eu penderfyniadau, eu gweithredoedd, eu gweithgareddau a'u strategaethau ymgysylltu.

  • Ymgynghori ynghylch mireinio canllawiau moesegol ac ynghylch datblygu codau ymddygiad ar gyfer gweithio gyda chymunedau byddar yng Nghymru, gan ddarparu arweiniad pan fo achosion cymhleth, a hyrwyddo diwylliant o ymchwil moesegol.

Drwy gyfrwng y Cadeirydd, bydd y Panel Profiad Bywyd yn darparu adborth, cyngor ac awgrymiadau i sicrhau bod penderfyniadau, polisïau, ymchwil a gweithredoedd y tîm project Iechyd Pobl Fyddar yng Nghymru yn cyd-fynd â safonau moesegol, gofynion cyfreithiol ac arferion gorau (darperir hyfforddiant) ac i sicrhau bod y gymuned fyddar yng Nghymru yn ymwybodol bod arferion o’r fath ar waith ac yn cael eu cynnal.

Cyfansoddiad

Grŵp ar Bydd y Panel yn cynnwys pum aelod o'r gymuned fyddar yng Nghymru y mae Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn iaith gyntaf neu’n ddewis iaith iddynt. Byddant yn cynnwys y canlynol:anel consistcyngor ac awgrymiadau i sicrhau bod penderfyniadau, of five members from the Welsh deaf community whose first or preferred language is British Sign Language (BSL).  It is cynnwys of the :