Adnoddau Naturiol

BSL

Beth yw'r Ganolfan Adnoddau Naturiol?

O dan arweiniad Michelle Fowler a Dr Whitney Fleming (Prifysgol Bangor), nod y ganolfan Adnoddau Naturiol yw gwneud lleoedd natur yng Nghymru yn hygyrch i unigolion byddar. Mewn llawer o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig does dim llawer o wybodaeth ar gael ar ffurf BSL, sy'n cyfyngu ar y gallu i’w mwynhau. Mae'r ganolfan hon yn gobeithio pontio'r bwlch hwnnw drwy ddarparu adnoddau cynhwysol a gwneud mannau awyr agored yn fwy hygyrch.

Gwybodaeth Hygyrch am Fyd Natur

Rydym yn gwneud mannau gwyrdd a mannau glas Cymru yn fwy cynhwysol drwy drosi gwybodaeth am safleoedd awyr agored yn ganllawiau gweledol a fideos ar ffurf BSL, gan helpu pobl fyddar i ddefnyddio’r amgylcheddau hyn a'u mwynhau. 

Cynnwys am yr Awyr Agored

Rydym yn creu llwyfan sy'n amlygu ac yn hyrwyddo mannau a gweithgareddau awyr agored sy'n groesawgar i'r gymuned fyddar.  

 

Ymgysylltu o dan Arweiniad y Gymuned

Rydym yn gwrando ar bobl fyddar ledled Cymru er mwyn deall pa adnoddau am yr awyr agored maen arnyn nhw eu heisiau a'u hangen, ac yn eu rhannu drwy ein gwefan a Chymuned ‘Circle’. 

Hyrwyddo Llesiant drwy Fyd Natur

Rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo digwyddiadau awyr agored a gynhelir o dan arweiniad pobl fyddar, sy'n helpu i wella iechyd meddwl a chorfforol drwy feithrin cysylltiad â byd natur. 

Beth rydym ni'n ei wneud?

Gweithio mewn partneriaeth â Sefydliadau Adnoddau Naturiol

Rydym yn cyd-gynhyrchu cynnwys ar ffurf BSL gyda sefydliadau sy'n rheoli tirweddau a threftadaeth naturiol Cymru.

Helpu pobl fyddar i allu crwydro yn yr Awyr Agored

Rydym yn gweithio gyda Ramblers Cymru i sicrhau bod eu Canllaw Crwydro ar gael ar ffurf BSL.

Archwilio'r Rhwystrau a'r Cymhellion 

Rydym wedi datblygu cwestiynau ymchwil i ddeall pam mae pobl fyddar yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, neu pam nad ydyn nhw’n gwneud hynny, a sut gallwn gael gwared ar y rhwystrau hynny.

Tynnu sylw at Fanteision Iechyd Byd Natur 

Rydym yn codi ymwybyddiaeth o sut mae treulio amser mewn mannau gwyrdd a mannau glas yn gallu gwella iechyd meddwl, cwsg, gweithgarwch corfforol a llesiant, yn enwedig i bobl fyddar, drwy greu adnoddau hygyrch a rhannu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Ffeithiau a Ffigurau

  • Mae Cymru yn llawn mannau gwyrdd (tir) a mannau glas (dŵr), gan gynnwys parciau cenedlaethol, coedwigoedd, afonydd ac arfordiroedd, sy'n ddelfrydol ar gyfer hybu iechyd a llesiant.

  • Mae treulio amser ym myd natur yn gwella iechyd meddwl a chorfforol, gweithrediad gwybyddol, pwysedd gwaed, cwsg a gweithgarwch corfforol.

  • Mae'r manteision iechyd a ddaw yn sgil treulio amser mewn mannau gwyrdd i’w gweld yn fwy ymysg pobl o gefndiroedd incwm isel, cymunedau nad ydyn nhw’n wyn, a dynion.

  • Mae llawer o safleoedd amgylcheddol a threftadaeth Cymru yn anhygyrch i bobl fyddar, yn enwedig pan nad oes llawer o gymorth ar gael ar ffurf BSL.

  • Mae pobl fyddar yng Nghymru yn wynebu rhwystrau sy'n cyfyngu eu gallu i fwynhau gweithgareddau llesiant cadarnhaol ym myd natur.

Cwestiynau cyffredin

Ydy’r ganolfan yn darparu cyrsiau hyfforddiant awyr agored? 

Na, ond rydym yn cydweithio â darparwyr hyfforddiant i wneud eu cyrsiau'n hygyrch i'r gymuned fyddar.  

Sut gall unigolion byddar gymryd rhan?  

Dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch chi o ran yr awyr agored! Rhannwch adnoddau hygyrch rydych chi wedi'u cael yn ddefnyddiol, a byddwn ni'n eu rhoi ar y wefan. 

A oes canllawiau sy'n addas i bobl fyddar ar weithgareddau awyr agored a heicio?  

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i ddatblygu a hyrwyddo canllawiau sy'n addas i bobl fyddar. Gallwch weld yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan.  

Oes gennych chi unrhyw adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd? 

Dewch yn ôl yma i gael gwybod y diweddaraf am yr adnoddau sydd ar gael.