Profiad Cleifion yng Nghymru

BSL

Beth yw Hyb Profiad Cleifion yng Nghymru?

Mae Hyb Profiad Cleifion yng Nghymru yn cael ei arwain gan Cath Booth, Gweithredwr Cymru dros Byddardod Ymlaen Cymru, a Martin Griffiths, Rheolwr BDA Cymru.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddeall a gwella profiadau gofal iechyd pobl Fyddar ac arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain ledled Cymru. Mae'r hyb yn archwilio cymorth cyfathrebu, darpariaeth dehongli a Chyfieithu, systemau trefnu apwyntiadau a phrosesau adborth i sicrhau bod cleifion Byddar yn cael gofal iechyd diogel, teg a hygyrch.

Profiad Cleifion yng Nghymru

Rydyn ni’n dadansoddi profiadau cleifion Byddar ar draws lleoliadau’r GIG a gofal cymdeithasol, yn adolygu systemau trefnu apwyntiadau a chyflawni i ddehonglwyr, ac yn gwella’r dulliau o roi adborth i gleifion Byddar. Rydyn ni hefyd yn nodi’r prif rwystrau cyfathrebu ac yn datblygu datrysiadau ymarferol i wella hygyrchedd ac ansawdd y profiad i gleifion. 

Llwybrau i Ddehongli

Archwilio'r llwybrau at ddehongli sydd ar gael yng Nghymru/yn y DU. Canfod y rhwystrau rhag bod yn ddehonglydd, a chynnig atebion. Ymchwilio i bosibiliadau dysgu drwy ‘lwybr carlam’ mewn cymhariaeth â llwybrau traddodiadol. Ymchwilio i ddulliau o hyrwyddo dehongli fel gyrfa ac arbenigedd posibl.

Cymorth Dehongli a Chyfathrebu

Rydyn ni’n adolygu’r ddarpariaeth dehongli bresennol ledled Cymru, yn gweithio gyda darparwyr gan gynnwys WITS a Byddardod Ymlaen Cymru, ac yn asesu’r bylchau o ran darpariaeth, anghenion rhanbarthol a chadw dehonglwyr. Rydyn ni hefyd yn amlinellu dulliau dehongli wyneb yn wyneb, o bell a VRS i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei deall yn glir ar draws gwahanol leoliadau. 

Bygythiadau a Chyfleoedd

Edrych ar y defnydd cynyddol o dechnoleg er mwyn gallu darparu gwasanaethau dehongli o bell a chyfnewid iaith ar ffurf fideo. Ymchwilio i wasanaethau cyfnewid iaith ar ffurf fideo, ac adrodd yn ôl ar y problemau a'r manteision. Archwilio a ddylid rheoleiddio gwasanaethau cyfnewid iaith ar ffurf fideo. Archwilio’r bygythiadau a'r cyfleoedd i’r ddarpariaeth dehongli yn y dyfodol a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial.

Beth rydym ni'n ei wneud?

Profiad Cleifion yng Nghymru

Gweithio gyda BDA Cymru ac eraill i gasglu profiadau cleifion Byddar a recriwtio cyfranogwyr Byddar i helpu gyda'n hymchwil.

WITS a Byddardod Ymlaen Cymru

Rydyn ni’n aelodau o Fwrdd Cynghori WITS ac yn gweithio gyda BDA Cymru ar arolwg sy’n cynnwys WITS a darparwyr dehongli eraill. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Byddardod Ymlaen Cymru i ddeall argaeledd dehonglwyr, darpariaeth ranbarthol a’r heriau sy’n effeithio ar gyfraddau cyflawni mewn lleoliadau gofal iechyd.

DPP Dehonglwyr

Gweithio gyda dehonglwyr BSL i’r Saesneg i archwilio cyfleoedd a gofynion DPP, cymorth gan gymheiriaid a chyfleoedd o ran cadw staff.

Llwybrau

Edrych ar sut gall Cymru gefnogi llwybrau dehongli a chynyddu nifer y dehonglwyr.

Nid oes digon o ddehonglwyr BSL yng Nghymru, sy'n aml yn ei gwneud yn anodd i bobl Fyddar gael gafael ar gymorth cyfathrebu priodol ar gyfer apwyntiadau gyda meddygon teulu neu mewn ysbytai.

Ffeithiau a Ffigurau

  • Ar hyn o bryd mae gan Gymru 54 Dehonglydd Iaith Arwyddion Cofrestredig.

  • 3.5% o Ddehonglwyr Iaith Arwyddion Cofrestredig y DU sydd gan Gymru.

  • Ar hyn o bryd nid yw system addysg Cymru yn cynnig llwybr clir at ddehongli.

  • Mae GCC yn darparu gwasanaethau dehongli a chyfieithu mewn tua 140 o ieithoedd; BSL yw'r drydedd iaith y gofynnir amdani fwyaf.

  • Mae Byddardod Ymlaen Cymru yn darparu dehonglwyr, Cyfieithwyr a chymorth cyfathrebu BSL ledled Cymru.

  • Mae pedwar Gwasanaeth Cyfnewid Fideo yn y DU yn gweithredu'n genedlaethol – does dim un ohonynt yng Nghymru.

Cwestiynau cyffredin

Pa mor bwysig yw'r ganolfan hon?

Mae'r ganolfan hon yn hollbwysig i'n helpu i awgrymu atebion a fydd yn rhoi gwell profiad i gleifion byddar sy'n defnyddio BSL. Bydd yn ein galluogi i gasglu, cofnodi a dadansoddi data i'n helpu i adrodd ar faterion a thueddiadau, a'n helpu i argymell newidiadau cadarnhaol.

Pa fath o gynlluniau sydd ar y gweill?

Rydym yn bwriadu cynnal ymchwil gyda chleifion byddar sy'n defnyddio BSL er mwyn cael gwybodaeth allweddol am eu profiad fel cleifion. 

Byddwn yn gweithio gyda'r dehonglwyr cofrestredig presennol, dehonglwyr dan hyfforddiant, gweithwyr cymorth cyfathrebu a dysgwyr BSL i edrych ar y daith tuag at ddod yn ddehonglydd.

Byddwn yn gweithio gyda darparwyr VRS, asiantau cyfieithu, byrddau iechyd a rhanddeiliaid eraill perthnasol i roi gwybodaeth am ein gwaith.

Pam mae angen gwneud hyn?

Mae Llywodraeth Cymru a'n byrddau iechyd bob amser yn gofyn am gael gweld tystiolaeth gadarn i gefnogi galwadau am newidiadau i wella profiad pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yng Nghymru. Mae'n bwysig cynnwys cleifion byddar, dehonglwyr ac eraill wrth gasglu'r corff hwn o dystiolaeth.

Rydw i eisiau helpu – beth alla i ei wneud?

Byddem wrth ein bodd yn cael eich help – gallai hynny olygu rhannu eich profiadau, neu ein helpu i ddod â phobl fyddar ac eraill at ei gilydd yn eich ardal chi. Byddem yn fwy na pharod i drafod hyn yn anffurfiol â chi.