Iechyd y Cyhoedd
BSL
Beth yw'r hyb Iechyd y Cyhoedd?
Mae canolfan Iechyd y Cyhoedd, o dan arweiniad Paul Redfern a Helen Rose-Jones, yn helpu Cymunedau byddar ledled Cymru i wella eu hiechyd a’u llesiant.. Rhan o'r gwaith hwn yw sicrhau bod mwy o wasanaethau iechyd a gwybodaeth am iechyd ar gael ar ffurf BSL.
Mapio Gwasanaethau yng Nghymru
Rydym yn ymchwilio i weld pa wasanaethau BSL sydd ar gael ym Myrddau Iechyd Cymru, a pha mor aml y gofynnir am ddehongliad BSL.
Hybu Iechyd mewn Clybiau Byddar
Rydym yn codi ymwybyddiaeth o ddiabetes Math 2 a dewisiadau iach mewn mannau cymunedol i bobl fyddar.
Cefnogi Timau Iechyd y Cyhoedd
Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau fel Helpa Fi i Stopio a Pwysau Iach, Byw’n Iach i wella’r ddarpariaeth BSL sydd ar gael.
Defnyddio'r hyn sydd eisoes ar gael
Rydym yn dod o hyd i fideos iechyd o ansawdd uchel sydd ar gael ar ffurf BSL, ac y gellir eu rhannu ar lwyfannau cenedlaethol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Beth rydym ni'n ei wneud?
Mapio mynediad at wasanaethau
Rydym yn adolygu pa mor hygyrch yw gwefannau a gwasanaethau ysbyty Byrddau Iechyd i bobl sy’n defnyddio BSL, ac yn rhannu'r canfyddiadau â gwasanaethau dehongli.
Cydweithio â thimau iechyd y cyhoedd
Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau fel Helpa Fi i Stopio ac 111 pwyswch 2 i sicrhau bod cymorth ar ffurf BSL ar gael yn fwy hwylus ac yn fwy amlwg.
Creu cysylltiadau â'r gymuned fyddar
Rydym yn ymweld â Chlybiau Byddar i rannu adnoddau iechyd sydd ar gael ar ffurf BSL, ac i drafod pynciau allweddol fel diabetes a byw'n iach.
Gwella gwybodaeth am iechyd
Rydym yn dod o hyd i fideos iechyd sydd eisoes ar gael ar ffurf BSL, ac y gellir eu hyrwyddo drwy wefannau cenedlaethol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’n dal yn anodd i bobl fyddar yng Nghymru gael gafael ar wasanaethau hanfodol ym maes iechyd y cyhoedd. Does dim digon o wybodaeth ar gael ar ffurf BSL – o wefannau i gymorth ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu. Mae hynny’n effeithio ar ein hiechyd a'n dewisiadau. Rydym yn gweithio i newid hynny er mwyn i bobl fyddar allu cael gafael ar y cymorth angenrheidiol i fyw'n dda.
Ffeithiau a Ffigurau
-
Mae rhwng 4,000 a 69,000 o bobl yn defnyddio BSL yng Nghymru
-
Mae pobl fyddar yn wynebu rhwystrau annheg rhag mwynhau iechyd a llesiant da, yn enwedig o ran iechyd meddwl
-
Nid oes gan BSL yr un statws cyfreithiol â'r Gymraeg ar hyn o bryd, ac felly mae'n aml yn cael ei ystyried yn rhywbeth 'braf i’w gael' yn hytrach nag yn rhywbeth hanfodol
-
Ychydig iawn o adnoddau iechyd a meddygol sydd ar gael ar ffurf BSL, sy'n golygu bod llawer o bobl fyddar yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar wybodaeth hanfodol am eu hiechyd.
Mae eich profiad chi’n bwysig
Ydych chi wedi cael trafferth cael gafael ar gymorth neu gyngor iechyd ar ffurf BSL? Oes gennych chi syniadau ynghylch sut gall gwasanaethau iechyd y cyhoedd wneud yn well?
Cwestiynau cyffredin
Mae'r ganolfan hon yn bwysig oherwydd bod pobl fyddar yn wynebu rhwystrau rhag mwynhau iechyd a llesiant da mewn sawl agwedd ar fywyd. Mae hynny’n annheg, ac mae angen mynd i'r afael â hynny.
Rydym yn cynnal mwy o ddigwyddiadau allgymorth mewn Clybiau Byddar a mannau cymunedol, ac yn cwrdd â chydweithwyr yn y GIG a'r trydydd sector i gyd-gynhyrchu atebion a hyrwyddo BSL ym maes gwasanaethau iechyd y cyhoedd.
Yn rhy aml, nid yw pobl fyddar yn cael eu cynnwys mewn gwasanaethau a negeseuon ym maes iechyd y cyhoedd. Os nad oes gwybodaeth ar gael ar ffurf BSL, dydyn ni ddim yn cael y cyfle i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Rydym wrthi’n casglu tystiolaeth i ddangos ble a sut mae'n rhaid newid y system.
Gallwch rannu eich profiadau, ymuno ag un o'n digwyddiadau, neu helpu i ledaenu'r gair. Boed hynny'n golygu rhoi adborth neu ein helpu ni i gysylltu â'ch cymuned, byddem yn falch iawn o glywed gennych chi.