Nod y ganolfan Adnoddau Naturiol ym Mhrosiect Iechyd Byddar Cymru yw pontio’r bwlch rhwng yr amgylchedd naturiol a hygyrchedd i bobl fyddar drwy ymgysylltu â chymunedau a chreu gwybodaeth hygyrch gyda rhanddeiliaid. Ar 21st Gorffennaf 2026, diolch i’r Gronfa Cyflymu Effaith ym Mhrifysgol Bangor, arweiniodd Iechyd Byddar Cymru dri digwyddiad ar gyfer y sector awyr agored ar y cyd â Chanolfan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog a Chanolfan Addysg Awyr Agored Argoed Llwyd.
Er mwyn cynyddu effaith a chyrhaeddiad y digwyddiadau, roedd y diwrnod yn cynnwys dwy elfen. Roedd y bore’n canolbwyntio ar weithdy Ymwybyddiaeth o Fyddardod ar gyfer y Sector Awyr Agored wedi’i anelu tuag at randdeiliaid yn y sector awyr agored, ac roedd y prynhawn yn canolbwyntio ar weithgareddau awyr agored tywysedig Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer y gymuned Fyddar.
Cynhaliwyd digwyddiad y bore yng Nghanolfan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog, a gwahoddwyd ystod amrywiol o randdeiliaid yn y sector awyr agored, 19 o bobl, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr Urdd, y Bartneriaeth Awyr Agored, RNIB, Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru a nifer o ddarparwyr gweithgareddau awyr agored lleol. Roedd y gweithdy yn cael ei arwain gan aelodau o Dîm Iechyd Byddar Cymru: Paul Redfern, Andrew Tobin a Libby Steele, ac roedd yn cael ei gefnogi gan ddau Ddehonglydd BSL-Saesneg. Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i ddysgu ynglŷn â sut i fod yn fwy cynhwysol a hygyrch i bobl fyddar a thrwm eu clyw yn eu gwasanaethau a’u seilwaith. Cyn ac ar ôl y gweithdy, fe wnaethon ni ofyn cwestiynau i’r rhai a oedd yn bresennol er mwyn mesur eu hyder wrth gyfathrebu gyda phobl Fyddar a thrwm eu clyw a pha mor hyderus maen nhw’n teimlo wrth gynnwys pobl Fyddar neu drwm eu clyw yn eu sesiynau. Cyn y gweithdy, rhoddodd 74% o’r ymatebwyr sgôr o 1 neu 2 allan o 5 ar gyfer eu hyder – lle mae 5 yn lefelau hyder uchel – ac ar ôl y sesiwn, rhoddodd 78% o’r ymatebwyr sgôr o 4 neu 5 allan o 5 ar gyfer eu hyder, gan ddangos bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn teimlo’n fwy hyderus i gyfathrebu â phobl Fyddar neu drwm eu clyw. Pan holwyd hwy ynglŷn â hyder wrth gynnwys person Byddar neu drwm ei glyw yn eu sesiwn, rhoddodd 70% o’r rhai a oedd yn bresennol sgôr gychwynnol o 3 neu is ar gyfer eu hyder, ond ar ôl y gweithdy, rhoddodd 88% o’r rhai a oedd yn bresennol sgôr o 4 neu uwch ar gyfer eu hyder. Rhoddodd un o’r rhai a oedd yn bresennol yr adborth a ganlyn am y sesiwn:
“Rwy’n teimlo bod y sesiwn yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau y gallai cymunedau byddar/trwm eu clyw eu hwynebu wrth gymryd rhan yn y math o ddigwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal, ac rwy’n teimlo fy mod yn dod o’r sesiwn â llawer gwell dealltwriaeth a llawer i feddwl amdano o ran sut y gallwn ni wella’r ffordd rydyn ni’n darparu’r gwasanaethau yma.”
Ar ôl egwyl fer i ginio, dechreuwyd â dau Weithgaredd Awyr Agored Tywysedig BSL gydag aelodau o’r gymuned Fyddar. Roedd dau weithgaredd yn cael eu cynnig i’r rhai a oedd yn bresennol, taith gerdded hamddenol i Dwyn y Gaer (Bryngaer o’r Oes Haearn) neu heic o amgylch Craig Cerrig Gleisiad, ac roedd y ddwy daith yn cael eu harwain gan hyfforddwyr awyr agored cymwysedig â chefnogaeth dehonglwyr BSL-Saesneg. Bwriedid i’r rhain fod yn grwpiau llai. Cymerodd saith o bobl ran yn yr heic a chymerodd chwech o bobl ran yn y daith gerdded hamddenol. Roedd y tywydd yn braf ac yn ddelfrydol ar gyfer cerdded; roedd y ddau weithgaredd yn cynnwys cydbwysedd o gerdded/heicio egnïol ac oedi i drafod planhigion a chreaduriaid diddorol. Roedd pawb wedi mwynhau ei hun ac wedi dysgu rhywbeth newydd! Ar ôl y daith gerdded, dywedodd y cyfranogwyr:
“Roedd arweinydd y daith a thywysydd y parc cenedlaethol yn wybodus iawn am y parc ac yn addasu i anghenion y grŵp - cyfathrebu, seibiant a chyfyngiadau amser.”
Roedd yn bwysig iawn bod tîm Iechyd Byddar Cymru yn sicrhau bod y gweithdy rhanddeiliaid yn effeithiol, yn fuddiol ac yn rhoi rhywbeth i’r rhai a oedd yn bresennol feddwl amdano, gan ganolbwyntio ar feithrin hyder a datblygu ymwybyddiaeth ar gyfer yr adegau pan fyddant yn ymwneud â phobl Fyddar neu drwm eu clyw. Ar gyfer y gweithgareddau tywysedig BSL, roedd pwyslais mawr ar sicrhau bod y rhai a oedd yn bresennol yn cael dewis o weithgareddau gan ddibynnu ar eu lefel ffitrwydd a beth maen nhw’n hoffi ei wneud.
Mae’r model hwn o weithdai ar gyfer rhanddeiliaid yn cael ei ddilyn gan ddigwyddiadau cymunedol penodedig yn caniatáu i brosiect Iechyd Byddar Cymru greu effaith a dylanwadu ar y sector awyr agored, a chreu cyfleoedd hygyrch a chynhwysol i’r gymuned Fyddar.
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiadau, a’r adborth cadarnhaol, rydym yn bwriadu cynnal y gweithdy rhanddeiliaid Ymwybyddiaeth o Fyddardod ar gyfer y Sector Awyr Agored ym mhob un o’r tri pharc cenedlaethol a darparu rhagor o Weithgareddau Awyr Agored Tywysedig BSL ledled Cymru, felly cadwch lygad am fwy o wybodaeth!