Cynhwysiant Pobl Fyddar mewn Gofal Iechyd a Chymdeithasol: Beth Mae Ymarferwyr Angen ei Wybod

Cynhwysiant Pobl Fyddar mewn Gofal Iechyd a Chymdeithasol: Beth Mae Ymarferwyr Angen ei Wybod
On 18 April 2026, the Deaf Health Wales (DHW) project will be hosting a Mini Deaf Gathering event at Pontio. This is a daylong deaf arts and culture event. Details can be found here.
Fel rhan o’r digwyddiad hwnnw bydd ein prosiect yn cyflwyno seminar, ‘Cynhwysiant Pobl Fyddar mewn Gofal Iechyd a Chymdeithasol: Beth mae Ymarferwyr Angen ei Wybod’, sydd wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, ymarferwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid o’r gymuned sy’n gallu clywed, er mwyn eu helpu i ddeall diwylliant Byddar yn well a rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau a sut maent yn gallu gwneud eu gwasanaethau’n hygyrch a chynhwysol.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal gan ddau gyd-ymchwilwyr DHW byddar ac arbenigwyr yn y maes, Dr Sara Rhys-Jones a Mr Paul Redfern (bywgraffiadau llawn isod). Bydd yn rhoi cyfle i fynychwyr ddysgu am y gymuned fyddar a sut i wneud Cymru yn wlad fwy teg a chynhwysol.
Bydd y pynciau a gwmpasir yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Cyflwyniad ac eglurhad o’r hyn yw Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a’r hyn nad ydyw, a diwylliant Byddar o safbwynt hunaniaeth, iaith a chymuned
- Ystadegau ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol cymunedau byddar yng Nghymru
- Mae rhwystrau mewn gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer cleifion byddar
- Egluro a deall caniatâd a GDPR gyda chleifion byddar
- Deall beth mae cydraddoldeb yn ei olygu ar gyfer pobl fyddar sy’n arwyddo BSL
- Pwysigrwydd gweithio gyda chymunedau byddar ac nid drostynt.
Bydd yna hefyd sesiwn Holi ac Ateb agored lle bydd Dr Rhys-Jones a Mr Redfern yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan y gynulleidfa ynghylch gofal iechyd a lles pobl fyddar.
This is a unique opportunity to learn from deaf experts. BSL–English interpretation will be provided, and the event is free and open to all hearing health care professionals, practitioners, students and stakeholders. We do, however, ask you to register here fel ein bod yn gallu cynllunio yn ôl yr angen.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom ar deafhealth@bangor.ac.uk.
Welwn ni chi yno gobeithio!
Bywgraffiadau
Dr Sara Rhys‑Jones is a deaf BSL‑signing Principal Clinical Psychologist for Swansea Bay University Health Board. She has a PhD on deaf linguistic‑identity theory and impression formation in BSL. More information here.
Mae Mr Paul Redfern yn ymchwilydd byddar sy’n arwyddo BSL gyda degawdau o brofiad yn datblygu cymuned fyddar, ymgysylltu gyda’r sector cyhoeddus ac arweinyddiaeth sefydliadol. Mae’n gweithio gydag Action Deafness, yn cadeirio’r Grŵp Iechyd Meddwl a Lles Byddar Cymru Gyfan, ac yn flaenorol roedd wedi dal rolau arweinyddiaeth gyda Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain, Richmond AID, a gwaith datblygu rhyngwladol yn Eswatini.
A BSL version of this email can be found here.