Iaith a Chyfathrebu

BSL

Beth yw'r ganolfan Iaith a Chyfathrebu?

Mae'r Ganolfan Iaith a Chyfathrebu, o dan arweiniad Dr Rob Wilks (UWE Bristol) ac Anouschka Foltz (Uni Graz), wedi ymrwymo i gynyddu amlygrwydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru. Nid dim ond “Cymraeg neu Saesneg ar ffurf arwyddion” yw BSL: mae'n iaith unigryw gyda'i gramadeg, ei geirfa a'i thafodieithoedd ei hun. Ond yng Nghymru, dydy BSL yn dal ddim yn cael y gydnabyddiaeth na'r sylw mae'n eu haeddu. Drwy gryfhau presenoldeb BSL a sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn fwy eang, ein nod yw sicrhau bod pobl fyddar yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth hanfodol am iechyd yn eu hiaith eu hunain.

Gwneud BSL yn fwy gweladwy yng Nghymru

Rydym yn codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod BSL yn iaith yn ei hawl ei hun – gyda'i gramadeg, ei strwythur a'i diwylliant ei hun. Ein nod yw gwneud BSL yn fwy gweladwy ar draws bywyd cyhoeddus yng Nghymru – o wasanaethau i leoliadau y mae pobl yn ymweld â nhw bob dydd.

Diogelu treftadaeth BSL

Rydym yn cofnodi arwyddion hŷn a ddefnyddir gan bobl fyddar yng Nghymru cyn iddyn nhw ddiflannu. Mae'r arwyddion treftadol hyn yn rhan bwysig o'n hanes diwylliannol ac ieithyddol.

Dathlu BSL yng Nghymru

Mae BSL yn edrych ac yn teimlo'n wahanol ym mhob cwr o Gymru. Rydym yn dogfennu’r tafodieithoedd rhanbarthol i ddangos cyfoeth yr iaith, ac i dynnu sylw at y gwahanol ffyrdd y mae BSL yn cael ei ddefnyddio yn y gymuned fyddar yng Nghymru.

Gwella mynediad at wybodaeth iechyd

Rydym yn creu adnoddau meddygol ar ffurf BSL i helpu pobl fyddar i ddeall gwybodaeth am iechyd yn eu hiaith gyntaf, sy’n helpu i sicrhau gwell mynediad ac yn gwella eu llesiant a’u hyder.

Beth rydym ni'n ei wneud?

Ein Harolwg Tafodiaith

Gweld faint o dafodieithoedd rhanbarthol sy’n rhan o BSL yng Nghymru

Treftadaeth Gymreig BSL

Cofnodi arwyddion BSL a ddefnyddir gan unigolion byddar hŷn yng Nghymru

Geirfa Feddygol

Creu geirfa o arwyddion BSL y gall unigolion byddar, dehonglwyr a chyfieithwyr eu defnyddio mewn lleoliadau iechyd.

Bythau Fideo

Rydym yn darparu bythau fideo mewn digwyddiadau er mwyn cofnodi arwyddion a straeon BSL. Cofiwch gadw llygad am ddigwyddiad yn eich ardal chi!

Dydy BSL yn dal ddim yn cael ei chydnabod yn eang yng Nghymru, ac mae'n anodd dod o hyd i wybodaeth ar ffurf BSL – yn enwedig gwybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd. Rydym ni am newid hynny.

Ffeithiau a Ffigurau

  • Mae rhwng 4,000 a 69,000 o bobl yn defnyddio BSL yng Nghymru.

  • Dydy llawer o bobl yng Nghymru ddim yn sylweddoli bod BSL yn iaith yn ei hawl ei hun.

  • Mae llawer o weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd ac aelodau o'r cyhoedd yn gweld unigolion byddar o safbwynt anabledd.

  • Mae hyn yn aml yn arwain at ganlyniadau negyddol o ran ansawdd eu haddysg, y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol maen nhw’n eu derbyn, ac ansawdd eu bywyd.

  • Prin yw'r ymchwil ar dafodieithoedd Cymreig BSL, sy'n golygu bod gwahaniaethau rhanbarthol yn aml yn cael eu hanwybyddu.

  • Ychydig iawn o adnoddau iechyd a meddygol sydd ar gael ar ffurf BSL, sy'n golygu bod llawer o bobl fyddar yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar wybodaeth hanfodol am eu hiechyd.

Cwestiynau cyffredin

Pa mor bwysig yw'r ganolfan hon?

Mae'r ganolfan hon yn bwysig, oherwydd nid yw BSL yn cael llawer o sylw yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym am sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod am yr iaith ac yn ei gwerthfawrogi. Rydym hefyd am sicrhau bod pobl fyddar yng Nghymru yn gwybod lle gallant ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau meddygol ar ffurf BSL.

Pa fath o gynlluniau sydd ar y gweill?

Rydym yn cynnal arolwg ar dafodieithoedd BSL, yn cofnodi arwyddion treftadol, ac yn creu adnoddau meddygol ar ffurf BSL – pob un ohonynt wedi'u dylunio i gryfhau presenoldeb BSL yng Nghymru.

Pam mae angen gwneud hyn?

Dydy Iaith Arwyddion yn dal ddim yn cael ei chydnabod yn eang yng Nghymru, ac ychydig o wybodaeth iechyd sydd ar gael ar ffurf BSL. Mae hyn yn effeithio ar hawliau, llesiant ac amlygrwydd pobl fyddar.

Rydw i eisiau helpu – beth alla i ei wneud?

Os ydych chi'n defnyddio BSL yng Nghymru, cymerwch ran yn ein harolwg tafodieithoedd neu ewch i fwth fideo. Rhannwch eich arwyddion, eich straeon a'ch cymorth i helpu i greu darlun mwy toreithiog o BSL yng Nghymru.